Mae cylchdaith sydd wedi ei threfnu’n dda, milltiroedd o draethau, a nifer ohonynt o fewn cyrraedd hwylus i Ystâd Plas Cadnant. Mae harddwch naturiol arbennig ac amrywiol a’r bywyd gwyllt ar forlin Ynys Môn wedi denu amrywiaeth fawr o ymwelwyr ers blynyddoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r morlin wedi ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig (SoDdGA).
Mae nifer o gyrsiau i golffwyr yn cynnwys cyrsiau 18 twll gyda golygfeydd trawiadol o fynyddoedd Eryri. Mae bob math o weithgareddau chwaraeon dŵr, pysgota môr, hwylio, bordhwylio, deifio a chanŵio. Mae nifer o weithgareddau eraill yn cynnwys marchogaeth, cerdded, dringo, beicio a rasio.Mae gan yr ynys fach hon gymaint i’w gynnig gyda’i threftadaeth hanesyddol ac archeolegol cyfoethog.
Llefydd i Ymweld â Nhw
Mae Ystâd Plas Cadnant rhwng tref hanesyddol Porthaethwy a’i phontydd byd enwog a’i chanolfan treftadaeth, a thref Biwmares a’i Chastell hardd. Dim ond taith fer mewn car yw trefi muriog Caernarfon a Conwy.
Gallwch ymweld â gerddi hardd a thai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cynnwys Gerddi Bodnant (tua 40 munud), Castell Penrhyn a Phlas Newydd (tua 15 munud).
Mae Trenau Bach Arbennig Cymru’n ffordd arbennig iawn o weld rhai o olygfeydd harddaf Prydain.
Os ydych yn arddwr brwd neu awydd mynd â rhywbeth arbennig iawn yn ôl gyda chi i gofio am eich gwyliau yng Ngogledd Cymru, ewch i feithrinfa enwog Fferm Crug sydd ychydig funudau i ffwrdd ger Caernarfon. Mae yno nifer o rywogaethau diddorol ac amrywiol o blanhigion o bob cwr o’r byd. Gallwch weld nifer o blanhigion ‘Crug’ yn tyfu yng Ngardd Plas Cadnant.
Mae dewis helaeth o lefydd bwyta ar gyfer pob achlysur ar garreg eich drws ym Mhorthaethwy a Biwmares. O awyrgylch hamddenol tafarn lle mae croeso i blant, i fwytai sy’n cynnig bwydlenni A La Carte a bwyd o safon, mae’r cyfan o fewn taith o ychydig funudau ar droed neu daith fer mewn car. Mae nifer o gaffis a siopau te lle gallwch flasu cacennau lleol a chael paned ganol bore neu ganol pnawn, ar ôl bod am dro o gwmpas y siopau neu ymweld ag atyniadau.
Gallwch gael blas o’r bwydydd amrywiol sydd ar gael yn Ynys Môn trwy ddilyn ‘Taith Fwyd Gwir Flas Môn’ neu trwy ymweld â gŵyl flynyddol Wystrys a chynnyrch Cymreig neu hyd yn oed ymweld â’r Ffatri Jam. Hefyd mae gan Fôn ei bragdy a’i gwinllan ei hun a melin wynt sy’n cynhyrchu blawd organig.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau ‘Gwir Flas Môn’.
Plas Brondanw
Gardd hanesyddol hyfryd, taith o 50 munud mewn car o Blas Cadnant.
Fferm Crug
Meithrinfa sy’n enwog am ei phlanhigion prin.
Gerddi Bodnant
Gerddi sy’n enwog yn fyd-eang (Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Taith o 40 munud mewn car.
Castell Penrhyn a’r Gerddi
(Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Taith o 40 munud mewn car.
Tŷ a Gardd Plas Newydd
(Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Taith o 10 munud mewn car.
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy, Prosiect Menai
Arddangosfa’r ddwy bont.
Cymdeithas Planhigion Caled Caerwrangon, ‘taith fach’
yn cynnwys adolygiad o ymweliad â Phlas Cadnant
Graffeg
Cwmni cyhoeddi o Gymru sydd wedi cyhoeddi 'Discovering Welsh Gardens' (bydd y gyfrol yn cael ei lansio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 1 Mawrth, 2009).
Veddw
Charles Hawes, ffotograffydd gardd (ffotograffydd y gyfrol 'Discovering Welsh Gardens') a gardd Anne Wareham, awdures llyfrau garddio yn Sir Fynwy.
Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
Un o gefnogwyr brwd Gardd Plas Cadnant.
Gardd Fotaneg Treborth
Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor. Tua 1 filltir o Ardd Plas Cadnant.
Atyniadau Eryri
Waeth beth fo’r tywydd mae mwy na digon i’ch cadw’n brysur yma
Y Deyrnas Gopr
John Price cyn berchennog Plas Cadnant oedd rheolwr Mwynglawdd Mona y cyfeirir ati bellach fel y Deyrnas Gopr.
Cyfeillion y Wiwer Goch Ynys Môn
Gwefan lle gallwch nodi eich bod wedi gweld y wiwer goch.