Y Gerddi Cudd

Gardd hanesyddol sy’n cael ei hadfer, rhwng Porthaethwy a Biwmares ar Ynys Môn.

Yn 1996, prynwyd Plas Cadnant a’r ystâd 200 erw gan y perchennog presennol a dechreuodd adfer yr ardd hanesyddol a’r tir. Ers hynny mae rhannau mawr o’r gerddi wedi eu gweddnewid ac wedi eu hadfer i’w hen ogoniant.

Mae Gerddi Plas Cadnant, sydd ar lan y Fenai mewn llecyn cudd ger Porthaethwy ar Ynys Môn, yn cael eu disgrifio fel un o gyfrinachau pennaf Gogledd Cymru.

Roedd cyn berchnogion Plas Cadnant yn perthyn i’r teulu Tremayne o Heligan House, sydd bellach yn enwog am ei Erddi Coll.

Mae gardd newydd yn cael ei chreu ar safle hanesyddol, ac yn datblygu’n baradwys i blanwyr. Caiff ei hystyried ymysg ugain gardd fwyaf apelgar Cymru, ac mae wedi ei chynnwys mewn llyfr newydd 'Discovering Welsh Gardens'. Mae’r gwaith datblygu’n parhau...

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd a gobeithio y byddwch yn dod draw i’n gweld neu edrychwch ar y wefan i weld y cynnydd yr ydym yn ei wneud.

Tair gardd yn un 

Darganfuwyd tair gardd wahanol, yn cynnwys gardd furiog anghyffredin gyda waliau ar dro a phwll, gardd y dyffryn gyda thair rhaeadr ac afon, a gardd uchaf y coetir gyda brigiadau ac adfail ffug adeilad o’r 19eg ganrif.

Sut i ddod o hyd i ni

Sut i gyrraedd Plas Cadnant

AEr y bydd gan nifer o’n hymwelwyr declynnau llywio lloeren o bob math, rydym wedi cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd yma a dolenni cyswllt i fap manylach a chynlluniwr taith i unrhyw un sydd heb declyn llywio lloeren.

O ganol dinas Bangor

  • Dilynwch y ffordd i bont grog Telford (A4080).
  • Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde yn y gylchfan fach (2il droad i ffwrdd oddi ar y gylchfan).
  • Dilynwch y ffordd (arwydd am Fiwmares) trwy Borthaethwy (A545) nes gwelwch chi bont newydd dros y ffordd, tua hanner milltir ymhellach ymlaen.
  • Trowch i’r chwith wrth y gilfach barcio (mae llinellau gwyn arno) ychydig cyn y bont ac mae mynedfa Ystâd Plas Cadnant 50m ar y chwith.

O ffordd gyflym yr A55 o gyfeiriad y tir mawr

  • Ewch dros Bont Britannia a throwch i ffwrdd ar y ffordd ymadael gyntaf (i’r chwith) yn syth ar ôl croesi’r bont.
  • Trowch i’r dde yn y gyffordd T (A4080) gan anelu’n ôl o dan y ffordd gyflym i gyfeiriad Porthaethwy a Biwmares.
  • Yn y gylchfan ewch yn syth ar draws (2il droad i ffwrdd oddi ar y gylchfan) ac i lawr i ganol Porthaethwy.
  • Trowch i’r chwith i ymuno â’r brif ffordd tuag at Fiwmares (A545), trwy dref Porthaethwy nes gwelwch chi bont newydd ar y ffordd o’ch blaen.
  • Trowch i’r chwith wrth y gilfach barcio (mae llinellau gwyn arno) ychydig cyn y bont ac mae mynedfa Ystâd Plas Cadnant 50m ar y chwith.

O ffordd gyflym yr A55 o gyfeiriad Dulyn/Caergybi

  • Trowch i ffwrdd oddi ar y ffordd gyflym pan welwch chi arwydd Porthaethwy a Biwmares (Cyffordd 8).
  • Trowch i’r chwith i ymuno â’r A5025 a ewch yn syth ymlaen at y gylchfan gyntaf (Four Crosses).
  • Trowch i’r dde (3ydd troad i ffwrdd oddi ar y gylchfan) ac ewch i lawr yr allt nes dod at gylchfan arall.
  • Byddwch yn ofalus, mae hwn yn barth 30mya.
  • Trowch i’r chwith (y troad 1af oddi ar y gylchfan) i gyfeiriad canol tref Porthaethwy, yna dilynwch yr un cyfarwyddiadau â’r rhai a roddir ar gyfer teithwyr o’r tir mawr.