Trawstiau a drysau derw go iawn, lloriau o lechi lleol a gwely pedwar postyn mawr. Dyma’r lle perffaith i chi ymlacio’n llwyr. Mae’r dewis gofalus a chwaethus o ddefnyddiau, dodrefn, offer cegin modern a ffitiadau ystafelloedd ymolchi’n sicr yn cyfrannu at awyrgylch, arddull a chymeriad unigryw’r bythynnod ym Mhlas Cadnant.
Mae digon o le parcio cyfleus y tu allan i bob bwthyn ac mae’r Rheolwr sydd ar y safle ar gael i’ch helpu ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych tra byddwch yn aros yma.
Mae’r holl ddillad gwely a’r llieiniau wedi eu cynnwys yn y prisiau. Rydym hefyd yn cynnwys pecyn brecwast am ddim er hwylustod.
Mae tân coed yn y Coetsiws a Bwthyn yr Ardd ac mae’r holl goed wedi eu cynnwys yn y prisiau.
Mae gwyliau byr ar gael trwy’r flwyddyn yn ein HOLL fythynnod, ar wahân i fis Gorffennaf ac Awst.
I weld pa ddyddiadau sydd ar gael ewch i dudalennau'r bythynnod unigol neu ffoniwch rif ein swyddfa ar 01248 717007.
Holwch am gynigion gwyliau byr yn y gaeaf yn ein holl fythynnod yn cynnwys Y Coetsiws.
Mae stof llosgi coed yn Y Coetsiws a Bwthyn yr Ardd a darperir yr holl goed.
Hamper am ddim i’ch croesawu yn ein holl fythynnod.
Mae’r holl gynigion yn dibynnu os yw’r dyddiadau ar gael.
We accept the above card payments via our booking system. Please telephone for more information.