Mae’r prosiect adfer hwn wedi ennill gwobrau ac mae wedi creu pump o fythynnod hunan arlwyo yn adeiladau allanol Rhestredig Gradd II Plas Cadnant yn Ynys Môn, Gogledd Cymru.
Fe’i disgrifir fel un o 'Lecynnau Arbennig' Ynys Môn.
Mae’r pum bwthyn hunan arlwyo ym Mhlas Cadnant wedi eu hadfer yn ofalus i greu grŵp bach o fythynnod sy’n llawn awyrgylch, yn chwaethus, cyfforddus, gyda digon o offer. Maent wedi eu lleoli ym mhendraw lôn goediog hir, o gwmpas iard eang.
Tra byddwch yn aros yma, mae croeso i chi gerdded trwy’r gerddi hanesyddol a’r parcdir hardd, neu fynd am dro hamddenol i lawr at y rhaeadrau diarffordd ar Afon Cadnant.